Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


(CLA(4)-05-11)

 

CLA37

 

Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010. Fe’u gwneir o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 a byddant yn dod i rym ar 1 Hydref 2011.

 

Mae Rheoliadau 2010 yn ei gwneud yn ofynnol bod gwerthwyr yn codi isafswm pris am fagiau siopa untro. Maent yn gorfodi gofynion cadw cofnodion ac adrodd ar werthwyr, yn penodi awdurdodau lleol i weinyddu’r cynllun codi tâl ac yn rhoi pwerau sancsiynau sifil i’r awdurdodau lleol i orfodi’r Rheoliadau. 

 

Ceir crynodeb o’r prif welliannau a wneir i Reoliadau 2010 yn y Rheoliadau hyn yn y Nodyn Esboniadol sy’n cyflwyno’r Rheoliadau.

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Cefndir

 

Trafodwyd Rheoliadau 2010 gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol y Trydydd Cynulliad ar 17 Tachwedd 2010. Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi adroddiad ar rinweddau’r Rheoliadau a cheir copi o’r adroddiad hwnnw fel Atodiad. Gwnaed y pwyntiau a ganlyn, ymhlith rhai eraill, yn yr adroddiad, nad oedd yn beirniadu’r rheoliadau’n ormodol:

 

   mai yn y rheoliadau y cafwyd y defnydd cyntaf yn y DU o’r pwerau o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 i’w gwneud yn ofynnol i godi tâl am fagiau siopa ac mai dyma’r tro cyntaf y rhoddwyd pwerau sancsiynau sifil i awdurdodau lleol yng Nghymru;

   bod y pwerau a ddefnyddiwyd i wneud y rheoliadau wedi’u rhoi yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru ac nad oedd y Cynulliad wedi craffu arnynt cyn hynny; a

   bod amrywiaeth o bryderon manwl ynghylch sut byddai’r rheoliadau’n gweithio’n ymarferol a sut byddent yn effeithio, yn benodol, ar fanwerthwyr bach.

 

Gweithdrefn

 

Gwnaed y Rheoliadau gwreiddiol o dan y weithdrefn gadarnhaol a chawsant eu trafod a’u cymeradwyo yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd. Gwnaed hyn oherwydd bod y ddeddfwriaeth alluogi yn ei gwneud yn ofynnol bod y weithdrefn gadarnhaol yn cael ei defnyddio lle mae’r pwerau:

 

   yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf;

   yn gosod sancsiynau sifil newydd;

   yn cynyddu neu’n newid y sail ar gyfer pennu cosbau ariannol; neu

   yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol.

 

Nid yw’r un o’r ffactorau hyn yn berthnasol i’r rheoliadau diwygio hyn ac, felly, cânt eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol.

 

Materion penodol

 

Yr effaith ar fusnesau bach a chanolig

 

Mae’r rheoliadau hyn yn mynd i’r afael ag un o’r pwyntiau yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a gyhoeddwyd yn 2010. Roedd busnesau bach a chanolig yn pryderu ynghylch effaith y gofyniad i gadw cofnodion ac i’w darparu ar gais i unrhyw aelod o’r cyhoedd. Mae’r rheoliadau diwygio hyn yn diddymu’r gofyniad adrodd ar gyfer busnesau sydd â llai na 10 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn.

 

Costau

 

Ymddengys bod y rheoliadau hyn hefyd yn mynd i’r afael â mater arall a godwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol: a ellir didynnu’r costau a dalwyd yn y cyfnod cyn i’r rheoliadau ddod i rym o’r incwm a gafwyd o godi tâl. Mae’r rheoliadau diwygio’n egluro bod y costau ‘sefydlu’ yn cyfrif fel ‘costau rhesymol’ ar gyfer y flwyddyn gyntaf y mae’n rhaid cyflwyno adroddiad ynddi ac y gellir eu didynnu.

 

Amseru

 

Daw’r rheoliadau hyn i rym mewn 12 niwrnod, ar 1 Hydref 2011, sef y dyddiad pryd y dechreuir codi tâl am fagiau siopa. Fodd bynnag, deallwn fod Llywodraeth Cymru wedi hysbysu’r rheiny sydd â diddordeb yn y rheoliadau diwygio ynghylch y posibilrwydd y bydd newidiadau ac, felly, y dylent eu disgwyl.

 

Yn sgil y pwynt blaenorol, mae’r Pwyllgor wedi cytuno bod y rheoliadau diwygio’n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad. Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i ddwyn y Gorchymyn drafft a’r Rheoliadau i sylw’r Cynulliad drwy gyhoeddi adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3(ii).

 

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Medi 2011


 

ATODIAD

 

CA499

 

CA499: Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch yr isafswm pris (5c) y mae'n rhaid i werthwyr nwyddau ei godi am fagiau siopa untro. Caiff y Rheoliadau eu gwneud o dan adrannau 77 a 90 o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 ac Atodlen 6 iddi.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 15.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhagoriaethau: Craffu

Cefndir

Mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i werthwyr nwyddau godi tâl am fagiau siopa untro plastig a phapur a ddarperir ar gyfer cwsmeriaid. Mae’r Rheoliadau’n pennu isafswm tâl o 5c ac yn ei gwneud yn ofynnol i werthwyr nwyddau gadw a chyhoeddi cofnodion mewn cysylltiad â nifer y bagiau a gaiff eu gwerthu ganddynt yng Nghymru a sut y defnyddiwyd yr elw.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn penodi awdurdodau lleol yng Nghymru yn weinyddwyr ac yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol ddefnyddio sancsiynau sifil i ymdrin ag achosion o dorri’r Rheoliadau.

Materion a nodwyd gan y Llywodraeth sydd o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

Y Rheoliadau drafft hyn yw’r rhai cyntaf yn y DU i ddefnyddio’r pŵer i’w gwneud yn ofynnol i werthwyr godi tâl am fagiau siopa untro o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

Y Rheoliadau drafft hyn hefyd yw’r rhai cyntaf i roi pwerau i awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â sancsiynau sifil. Caiff y pwerau sancsiynau sifil eu hategu gan ddyletswyddau i gyhoeddi canllawiau ar sut y defnyddir y pwerau.

Materion eraill

Gostyngiad yn y tâl arfaethedig

Roedd tystiolaeth gan fanwerthwyr yn ystod y broses ymgynghori yn dangos y byddai tâl o 5c yn ddigon i rwystro pobl rhag prynu bagiau siopa. Cyn hyn, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyfrif hyn i fod yn 7c.

Bellach, mae’r Llywodraeth yn credu y byddai 5c yn decach i grwpiau incwm isel ac y byddai’n atal pobl rhag gorfod talu mwy am fag siopa untro nag am ‘fag am oes’, a fydd wedi’i eithrio o’r tâl.

Yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd, penderfynwyd gostwng y tâl o 7c i 5c, er gwaethaf y ffaith ei bod yn cydnabod na fydd y tâl is yn ‘mewnoli’ costau cymdeithasol ac amgylcheddol cynhyrchu a gwerthu bagiau siopa, er y byddai hyn wedi digwydd gyda’r tâl o 7c.

Materion yn ymwneud â diffiniad

Roedd yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad yn cyfeirio at ddryswch parhaus am nifer o faterion nad ydynt yn ymddangos fel pe baent wedi’u hystyried yn llawn yn y Rheoliadau na’r Memorandwm Esboniadol. Mae’r rhain yn cynnwys:

·         a fydd bagiau plastig a ddefnyddir ar gyfer nwyddau hyrwyddo, er enghraifft, bagiau a gaiff eu dosbarthu mewn cynadleddau, yn rhan o’r amodau tâl;

·         pan fydd nwyddau’n cael eu dychwelyd gan y prynwr, a fydd yn ofynnol i’r gwerthwr ad-dalu tâl y bag siopa ac a allai’r gwerthwr dynnu hyn o’r enillion gros fel costau rhesymol o dan y rheoliadau;

·         a yw’n bosibl cael bag newydd am ddim yn lle un sydd wedi torri; a

·         dehongliad o’r darpariaethau sy’n eithrio rhai bagiau (er enghraifft am resymau iechyd neu hylendid) ond na fyddent, wedyn, yn cael eu heithrio os caiff eitemau eraill eu rhoi yn y bag.

Costau a chadw cofnodion

Gall manwerthwyr dynnu ‘costau rhesymol’ o’r enillion gros o’r tâl am fagiau siopa, gan gynnwys costau cydymffurfio a chostau sy’n gysylltiedig â hysbysu staff a chwsmeriaid am y tâl.

Bydd yn ofynnol i fanwerthwyr mwy gadw cofnodion a’u cyhoeddi yn flynyddol, a bydd yn ofynnol i fanwerthwyr llai gadw cofnodion, ond ni fydd angen eu cyhoeddi.

 

Mynegwyd ychydig o bryderon gan rai o’r bobl yr ymgynghorwyd â hwy. Mae’r rhain yn cynnwys:

·         nid yw’n glir a ellir didynnu’r costau a dalwyd cyn i’r rheoliadau ddod i rym (ym mis Hydref 2011);

·         y bydd y rheoliadau’n cael eu gweithredu mewn gwahanol ffyrdd ym mhob rhan o Gymru, gan ei bod yn bosibl na fydd awdurdodau lleol, a fydd yn gyfrifol am weinyddu a gorfodi’r tâl hwn, yn cysoni’r diffiniad o ‘gostau rhesymol’; a

·         phryder gan fusnesau bach a chanolig eu maint am effaith y gofyniad i gynnal cofnodion a’u cyflwyno ar gais i unrhyw aelod o’r cyhoedd.

Cosbau

Mae’r rheoliadau yn darparu ar gyfer amrywiaeth o gosbau ariannol penodol, ac nid oes yr un ohonynt yn uwch na £200.

Fodd bynnag, mae darpariaeth hefyd ar gyfer gosod cosbau ariannol amrywiol gan awdurdodau lleol unigol. Uchafswm gwerthoedd y cosbau hyn yw £5,000 ac £20,000, yn dibynnu ar ba reoliad sydd wedi’i dorri.

Nid yw’n glir, eto, i ba raddau y bydd awdurdodau lleol yn gosod cosbau yn ôl gwahanol feini prawf mewn gwahanol rannau o Gymru.

Bagiau siopa papur

Nod y rheoliadau yw lleihau nifer y bagiau siopa untro a gaiff eu defnyddio bob blwyddyn yng Nghymru. Mae 350 miliwn o’r 445 miliwn o fagiau a ddefnyddir yn rhai plastig ac mae 95 miliwn ohonynt yn rhai papur. Bydd y tâl yn cael ei bennu yn ôl lefel sy’n ‘mewnoli’ costau cymdeithasol defnyddio bag, ac felly’n arwain at lai o ddefnydd.

Bydd y tâl yn berthnasol i fagiau siopa plastig a bagiau siopa papur. Fodd bynnag, nid yw’r Llywodraeth wedi gallu cyfrifo costau cymdeithasol bag papur ar hyn o bryd (fel y llwyddodd i’w wneud ar gyfer bagiau plastig). At ddibenion yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, barnwyd bod y pris yr un fath â’r pris ar gyfer bag plastig. Efallai nad yw’r farn hon yn gywir.

Ystyriaeth y Pwyllgor

Nododd y Pwyllgor y materion uchod ac yn benodol:

 

·         mai yn y rheoliadau y cafwyd y defnydd cyntaf yn y DU o’r pwerau o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 i’w gwneud yn ofynnol i godi tâl am fagiau siopa ac mai dyma’r tro cyntaf y rhoddwyd pwerau sancsiynau sifil i awdurdodau lleol yng Nghymru;

·         bod y pwerau a ddefnyddiwyd i wneud y rheoliadau wedi’u rhoi’n uniongyrchol i Weinidogion Cymru ac nad yw’r Cynulliad wedi craffu arnynt cyn hyn;

·         bod amrywiaeth o bryderon manwl ynghylch sut bydd y rheoliadau’n gweithio’n ymarferol a sut byddant yn effeithio, yn benodol, ar fanwerthwyr bach; a

·         bod y rheoliadau’n berthnasol i fagiau siopa papur a bagiau siopa plastig. Er y gallai’r costau sylfaenol ar gyfer y ddau fath o fag fod yn wahanol, maent wedi cael eu barnu i fod yr un fath ac mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi cael ei gyfrifo ar y sail honno.

Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol i’r Gweinidog fynd i’r afael â’r holl bwyntiau hyn yn uniongyrchol yn ystod trafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ar y Gorchymyn drafft.

Yng ngoleuni’r ffactorau hyn, cytunodd y Pwyllgor bod y Gorchymyn drafft a’r Rheoliadau yn codi materion o bolisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw’r Cynulliad at y Gorchymyn drafft a’r Rheoliadau drwy gyhoeddi adroddiad o dan Reol Sefydlog 15.3(ii).

 

Janet Ryder
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

17 Tachwedd 2010